 |
Manylion cyswllt:
Am wybodaeth bellach am y prosiect neu i roi sylwadau am ein gwefan, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod:
info@orcoed.co.uk |

|
|
Am y prosiect O'r Coed
Mae O’r Coed yn brosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd trwy LEADER+. Rheolir y prosiect gan Ogledd Gororau Cymru. Nodau'r prosiect yw:
- codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a'i ddealltwriaeth o bwysigrwydd tirluniau, coetiroedd a pharciau'r rhanbarth, ynghyd â'u datblygiad hanesyddol
- hyrwyddo'r gwaith o hwyluso adnoddau coetiroedd, coed a gwrychoedd y rhanbarth yn gynaliadwy er budd yr economi
- sefydlu ymwybyddiaeth o amrywiaeth cynnyrch coetiroedd, coed a gwrychoedd gan ddehongli egwyddorion cynaladwyedd a 'naturioldeb'
- creu ac atgyfnerthu brand premiwm cynnyrch coetiroedd, coed a gwrychoedd o ansawdd uchel
- arddangos gwaith dylunwyr a gwneuthurwyr dodrefn y rhanbarth
- annog defnydd o fwytai, tafarndai a busnesau lletyau gwledig y rhanbarth
|
|