Croeso i’r adran am frandio treftadaeth
Edrychwch am arwydd y ddeilen.
Mae’n arwydd cynnyrch coed a wnaed o goed o coetir lled-naturiol hynafol neu safleoedd coetir hynafol yng nghefn gwlad Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r coedydd hyn yn cael eu rheoli’n ofalus i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt a buddiannau eraill y coetiroedd. Bydd coed newydd, ifanc yn cael eu plannu yn lle pob un o’r coed sy’n cael eu torri, i ddarparu coed at y dyfodol.
Mae busnesau coetir sy’n cael lle amlwg ar y wefan hon yn bartneriaid pwysig ym mhrosiect O’r Coed.
Maent yn ymfalchïo mewn gwneud bywoliaeth o goetiroedd yr ardal, tra’n cymryd gofal i ddiogelu’r coetiroedd maent yn gweithio ynddynt at y dyfodol.
Wrth brynu cynhyrchion coetir gydag arwydd y ddeilen gan y busnesau hyn rydych yn helpu i reoli a gwarchod coetiroedd hynafol Gogledd-ddwyrain Cymru.
|